Mae meddyginiaethau effeithiol yn dal i hybu iechyd trwy wella ansawdd bywyd ac ymestyn hyd oes pobl. Fodd bynnag, nid yw llawer yn cael y budd mwyaf o’u triniaethau oherwydd nad ydynt yn eu cymryd yn briodol a thrwy hynny leihau eu heffeithiolrwydd. Dywedir nad yw cymaint â 50% o gleifion yn cymryd eu meddyginiaethau fel y dylent. Canlyniadau uniongyrchol hynny yw bod afiechydon naill ai ddim yn gwella neu’n ymledu ac mae hynny'n rhoi baich economaidd ar gleifion, y rhai sy’n gofalu amdanynt a chymdeithas yn gyffredinol.
Mae tystiolaeth gynyddol i awgrymu bod dulliau ar gael i wella’r ffordd y defnyddir meddyginiaethau. Yn y cynllun Ewropeaidd newydd – yr ABC project (ascertaining barriers for compliance) mae arbenigwyr rhyngwladol ym maes ymchwil cydymffurfio â gofynion meddyginiaethau yn ceisio darganfod dulliau o hyrwyddo hynny, asesu eu dulliau gweithredu clinigol a chost-effeithiolrwydd, a lledaenu argymhellion i’r gymuned ehangach. Ewch i’n gwefan i gael gwybod mwy am yr amcanion a canlyniadau’r ABC Project!
Tîm yr ABC Project
